Vote for Steve Witherden
Vote for Steve Witherden

Who am I?

This is something I’ve been asked about a lot during the campaign, especially since our constituency has received some unfortunate national news coverage regarding a particular Tory candidate.

I am not a career politician. I have worked a few jobs in my life – I have been a warehouseman on Redwither Industrial Estate, a production operative in a paint factory, a security guard and gym instructor, and one summer I worked the kiosk at Llangollen Park selling ice cream.

However, my vocation has been teaching and I have been a secondary school teacher in our local state schools for nearly 20 years. Each one of those years has been an absolute privilege.

I am also the North Wales Executive Member of my teaching union, a volunteer role that I undertake alongside my full-time teaching post. I am proud that my tenure in this role has been instrumental in securing safe teaching environments for our children alongside fighting for employment rights for my colleagues and other working people. I have been proud to stand in solidarity alongside striking workers in many industrial action processes over the last 14 years.

I am a father to two children and husband to my amazing wife. I am running to be your MP because I want to make a difference in the lives of the people I share this community with, because I have seen the devastation that 14 years of Tory chaos has caused, and because I was tired of arguing at the TV during Question Time.

It is essential to the future of our children that Labour’s New Deal for Working People is established. We must put an end to exploitative zero hour contracts and the audacious fire and rehire. We must lift the barriers to opportunities for young people, invest in green energy, preserve the natural beauty of our countryside and work together to build a brighter future.

If elected as your MP I will work tirelessly to restore security to the lives of working people.

Pwy ydw i?

Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi cael fy holi llawer amdano yn ystod yr ymgyrch, yn enwedig ers i’n etholaeth cael sylw anffodus yn y newyddion cenedlaethol ynghylch yr ymgeisydd Torïaidd.

Nid wyf yn wleidydd gyrfaol. Rwyf wedi cael amrywiaeth o swyddi yn fy mywyd – gweithiais mewn warws ar Ystâd Ddiwydiannol Redwither, gweithiwr cynhyrchu mewn ffatri baent, swyddog diogelwch a hyfforddwr ffitrwydd, ac un haf bûm yn gweithio yn y ciosg ym Mharc Llangollen yn gwerthu hufen iâ.
Fodd bynnag, fy ngalwedigaeth oedd i addysgu ac rwyf wedi gweithio fel athro ysgol uwchradd ers bron i 20 mlynedd. Mae pob un o’r blynyddoedd hynny wedi bod yn fraint aruthrol.

Rwyf hefyd yn Aelod Gweithredol Gogledd Cymru o fy undeb athrawon, rôl wirfoddol yr wyf yn ymgymryd ynghyd â fy swydd addysgu llawn amser. Rwy’n falch bod fy nghyfnod yn y rôl hon wedi bod yn allweddol wrth sicrhau amgylchedd addysgu diogel i’n plant ochr yn ochr ag ymladd dros
hawliau cyflogaeth ar gyfer fy nghydweithwyr a phobl eraill sy’n gweithio. Rwyf wedi bod yn falch o sefyll mewn undod ochr yn ochr â gweithwyr sydd ar streic mewn llawer o brosesau gweithredu diwydiannol dros y 14 mlynedd diwethaf.

Rwy’n dad i ddau o blant ac yn ŵr i fy ngwraig anhygoel.

Rwy’n sefyll i fod yn AS i chi oherwydd rydw i eisiau gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl fy ngymuned, ar ôl gweld y dinistr ac anrhefn a gafwyd am 14 mlynedd o dan y Torïaid, ac oherwydd fy mod wedi blino dadlau gyda’r teledu yn ystod Question Time.

Mae’r Fargen Newydd Llafur ar gyfer Pobl sy’n Gweithio yn hanfodol i ddyfodol ein plant. Rhaid inni roi diwedd ar gontractau dim oriau a’r arfer o ddiswyddo ac ail-gyflogi. Rhaid inni greu gyfleoedd i bobl ifanc, buddsoddi mewn ynni gwyrdd, cadw harddwch naturiol ein cefn gwlad a chydweithio i adeiladu dyfodol mwy lewyrchus.

Os caf fy ethol yn AS byddaf yn gweithio’n ddiflino i ddod a sefydlogrwydd i fywydau gweithwyr.

Link to Instagram Link to Twitter Link to YouTube Link to Facebook Link to LinkedIn Link to Snapchat Close Fax Website Location Phone Email Calendar Building Search